Digwyddiad / 28 Gorff 2022

Y Gofod Domestig mewn Ffotograffiaeth a Chelf

John Paul Evans, Rosy Martin, Dafydd Williams

Y Gofod Domestig mewn Ffotograffiaeth a Chelf
Pastoral scene © John Paul Evans

Ar nos Iau 28 Gorffennaf, byddwn yn cynnal trafodaeth panel i archwilio themâu’r gofod domestig mewn ffotograffiaeth a chelf. Bydd yr artistiaid Dafydd Williams, Rosy Martin a John Paul Evans yn ymuno â ni ar y panel. Mae pob un o’r artistiaid hyn yn archwilio themâu tebyg yn eu gwaith eu hunain drwy amrywiol ddulliau.

Byddem wrth ein boddau’n eich croesawu chi am noson o sgwrsio llawn ysbrydoliaeth rhwng 6 ac 8pm yn ein horiel hyfryd yn Cathays.

Mae What is lost… what has been yn arddangosfa solo o waith ffotograffig gan yr artist o Gymru John Paul Evans, sy’n digwydd yn Ffotogallery o 17 Mehefin hyd 3 Medi 2022.

Mae’r casgliad hwn o gyfresi John Paul Evans, sy'n cael eu harddangos gyda’i gilydd am y tro cyntaf, yn gofyn cwestiynau am berthynas ffotograffiaeth gyda chof, cariad, colled a chynrychiolaeth.

Gan weithio gyda’i bartner Peter, mae’r artist yn defnyddio portreadu perfformiadol, bywyd llonydd a collage i ailddychmygu mannau cyhoeddus a domestig. O ddelweddau manwl sydd wedi eu hadeiladu’n ofalus i ddogfennu cymyl-luniau yn ystyrlon, mae’r gwaith yn chwareus ac hefyd yn ingol o dyner. Mae gwaith John Paul Evans yn ein hatgoffa o’r traddodiadau gweladwy, a’r strwythurau cymdeithasol a all fod yn anweladwy, sy’n eithrio grwpiau sy’n dioddef gorthrwm, gan gynnwys y gymuned LGBTQIA+ a nifer o grwpiau eraill hefyd.


Byddem yn argymell eich bod yn archebu ar Eventbrite, ond nid yw hynny’n hanfodol, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e...

Proffil Artistiaid

John Paul Evans

Mae John Paul Evans yn artist ffotograffig ac academydd a aned yng Nghymru ac sydd yn awr yn byw yn Nyfnaint, Lloegr. Mae ei waith yn archwilio dadleuon am gynrychioliaeth y rhywiau mewn ffotograffiaeth. Mae wedi derbyn amrywiol wobrau rhyngwladol yn cynnwys Gwobr Meistri Hasselblad 2016. Enillodd Wobr Du a Gwyn Cylchgrawn Dodho 2017, Gwobrau Ffotograffiaeth KL 2017, gwobrau portffolio Bokeh Bokeh 2017 a 2018, a Gwobr Ffotograffiaeth Pride 2014.

Portread o Rosy Martin

Rosy Martin

Mae Rosy Martin yn artist-ffotograffydd, therapydd seicolegol, arweinydd gweithdai, darlithydd ac ysgrifenwr. Mae hi’n archwilio’r berthynas rhwng ffotograffiaeth, cof, hunaniaethau a phrosesau anymwybodol gan ddefnyddio hunan-bortreadau, ffotograffiaeth bywyd llonydd, delweddu digidol a fideo. Trwy gorfforiad, mae hi’n gweld adeiladwaith seicig a chymdeithasol hunaniaethau yn nrama bywyd pob dydd.

Portread o Dafydd Williams

Dafydd Williams

Mae’r artist cynyddol amlwg sydd wedi ei seilio yn Abertawe, Dafydd Williams, yn ymddiddori mewn symboliaeth a thechneg ym mhaentiadau’r dadeni, yn bennaf gan y meistri Michelangelo a Caravaggio, sy’n cael eu defnyddio i feirniadu strwythurau rhywedd a rhywiol cyfoes.