Digwyddiad / 9 Ebrill 2022

Digwyddiad Cloi - Tro a Sgwrs / Sgrinio ffilm

Edgar Martins

Ymunwch â ni i fwynhau prynhawn o ddigwyddiadau arbennig i nodi diwrnod olaf ein harddangosfa bresennol gan Edgar Martins, “What Photography and Incarceration Have In Common With an Empty Vase”, ar Ddydd Sadwrn 9 Ebrill o 1pm.

Byddwn yn dangos ffilm Martins The Life and Death of Schrödinger’s Cat i gyd-fynd â’r arddangosfa. Mae’r elfen o ffilm yn y prosiect hwn yn defnyddio dilyniant o ffotograffau, sy’n atgoffa rhywun yn gryf o ddarluniadau a dogfennaeth wyddonol, a’r llyfr ffotograffau gwych o 1977 gan Larry Sultan a Mike Mandel, Evidence.

Y gwahaniaeth gydag Evidence yw nad lluniau yn unig a welwn. Mae ffotograffau Martins mewn dilyniant i gyd-fynd â stori fawreddog sydd wedi ei seilio ar gydweithrediad â’r ffisegwr adnabyddus o Bortiwgal sy’n wyddonydd yn CERN, João Seixas, ar garchar a adeiladwyd i roi’r absenoldeb mwyaf posibl i’w garcharorion o’r gymdeithas.

Nodwch os gwelwch yn dda, bydd y ffilm yn cael ei dangos yn ein llyfrgell ac felly mae’r lleoedd yn gyfyngedig. Mae gofyn cadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn, ac mae tocynnau ar gael yma.

Bydd Martins yn ymuno â ni’n bersonol i arwain taith “Tro a Sgwrs” o amgylch yr arddangosfa gyfan am 2pm ac eto am 4pm i roi cipolwg i ni ar ei feddwl yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau.

Dyma drefn y prynhawn:

Sesiwn 1:

1:00pm - The Life and Death of Schrödinger’s Cat

(ffilm, 21 munud, llyfrgell)

2:00pm - Tro a Sgwrs gydag Edgar Martins

(wyneb yn wyneb, tua 1 awr, y brif oriel)

Sesiwn 2:

3:00pm - The Life and Death of Schrödinger’s Cat

(ffilm, 21 munud, llyfrgell)

4:00pm - Tro a Sgwrs gydag Edgar Martins

(wyneb yn wyneb, tua 1 awr, y brif oriel)

Proffil Artist

Portread o Edgar Martins

Edgar Martins

Ganed Edgar Martins yn Évora (Portiwgal) ond fe’i magwyd yn Macau (Tsieina), ble cyhoeddodd ei nofel gyntaf, sef Mãe deixa-me fazer o pino. Yn 1996 symudodd i’r DU, gan gwblhau BA mewn Ffotograffiaeth a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol y Celfyddydau, yn ogystal ag MA mewn Ffotograffiaeth Celfyddyd Gain yn y Coleg Celf Brenhinol (Llundain).

Mae ei waith i’w weld yn rhyngwladol mewn sawl casgliad uchel eu proffil.

Mae Edgar Martins wedi arddangos yn eang mewn sefydliadau megis PS1 MoMA (Efrog Newydd), MOPA (San Diego, UDA), Centro de Arte Moderna (Lisbon) MAAT (Lisbon), CIAJG (Guimarães, Portiwgal), Centro Cultural Hélio Oiticica (Rio de Janeiro), The New Art Gallery Walsall (Walsall, DU), The Gallery of Photography (Dulyn), Ffotogallery (Penarth, Cymru), Open Eye Gallery (Lerpwl), New Walk Gallery, Caerlŷr, The Herbert Museum & Art Gallery, a’r Geneva Photography Centre, ymhlith sawl un arall.

Yn 2010, llwyfannodd y Centre Culturel Calouste Gulbenkian (Paris) arddangosfa ôl-dremiol gyntaf Edgar Martins.

Edgar Martins oedd enillydd cyntaf Gwobr Ffotograffiaeth Efrog Newydd (categori Celfyddyd Gain, Mai 2008), BEZ Photo Prize (Portiwgal, 2009), Gwobr Ffotograffiaeth y Byd SONY (2009; 2018), gwobr 1af yng nghategori Celfyddyd Gain–Haniaethol Gwobrau Ffotograffiaeth Rhyngwladol 2010, gwobr 1af yr European Photography Call 2020 yn yr Hangar Centre, a’i enwebu ar gyfer y Priz Pictet 2020 yn ogystal â Gwobr Meitar am Ragoriaeth mewn Ffotograffiaeth yn 2020 & 2021.

Derbyniodd ei lyfr cyntaf —Black Holes & Other Inconsistencies—Wobr Llyfr Celf Thames & Hudson a Chymdeithas y Coleg Celf Brenhinol. Hefyd yn 2003 derbyniodd ddetholiad o ddelweddau o’r llyfr yma ddyfarniad Gwobr Ffotograffiaeth Jerwood.

Cyrhaeddodd Yr hyn sydd gan Ffotograffiaeth a Charchariad yn Gyffredin â Fâs Wag Edgar Martins restr fer Gwobrau Sefydliad Photo-Aperture Paris yn ogystal â Gwobrau Llyfrau Lluniau PhotoEspaña yn 2020.

Fe’i dewiswyd i gynrychioli Macau (Tsieina) yn 54fed Biennale Fenis.