Digwyddiad / 24 Chwef 2022

‘Aristotle’s Hole’ - From Mo-tzu to the Selfie Stick

Justin Quinnell

‘Aristotle’s Hole’ - From Mo-tzu to the Selfie Stick
© Justin Quinnell

Dros 2500 o flynyddoedd yn ôl, gwyliodd yr Athronydd Mo-tzu oleuni’r haul yn teithio drwy dwll bach a daeth i’r casgliad bod golau’n teithio yn yr un ffordd â saeth yn cael ei saethu.

Mewn ychydig dros awr, mae ‘Aristotle’s Hole’ yn edrych ar: y Wyddoniaeth, 500 miliwn o flynyddoedd o hanes a’r amrywiaeth eang o ddulliau cyfoes o wneud ffotograffiaeth twll pin a gwaith camera obscura.

Yna bydd Justin yn dangos rhywfaint o’i waith ei hun o’r 30 mlynedd diwethaf, sy’n amrywio yn eu hyd o ddefnyddio ffracsiwn o eiliadau i 12 mis ac yn defnyddio amrywiaeth o gamerâu o’r Smileycam (sy’n ddigon bach i fynd i’w geg) i’r bin olwynion (sy’n rhy fawr!). Bydd hefyd yn dangos rhywfaint o’i waith obscura sydd rhywsut yn galluogi iddo fynd i mewn i wyliau am ddim!

Weithiau mae’r sgwrsio bywiog yn cynnwys nifer o ddulliau dewr o dynnu lluniau o’r enw ‘bod yn bêl golff’ a ‘phortread o ddril pŵer’ a dangosiadau ynglŷn â sut i wneud amrywiol gamerâu twll pin ac obscura. Bydd hefyd yn siarad am ffotograffiaeth gymunedol a’r Real Photography Company, yn cynnwys rhai o’r prosiectau y maen nhw wedi cymryd rhan ynddynt dros y 5 mlynedd diwethaf.

Mae’r sgwrs yn rhad ac am ddim er y gallwch roi rhodd ar y noson i: Canolfan Gymunedol Cathays

Proffil Artist

Portread o Justin Quinnell

Justin Quinnell

Mae Justin Quinnell yn un o arbenigwyr y byd mewn ffotograffiaeth twll pin a gwaith camera obscura. Mae wedi arfer ac addysgu’r sgiliau hyn dros y byd am fwy na 30 o flynyddoedd.

Mae ei waith yn cynnwys: ‘Mouthpiece’ – lluniau o fewn y geg, ‘Slow Light’, lluniau dinoethi dros 6 mis a’r balch o ffiaidd ‘Awfullogrammes’. Yn ogystal â darlithio ledled y DU, mae’n ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Falmouth ac yn gyfarwyddwr a sefydlydd y Real Photography Company, sef ystafell dywyll i’r gymuned yn nhref ei gartref, Bryste.

Mae ei waith wedi ei gymryd o Awstralia a Seland Newydd i Ewrop a’r Unol Daleithiau lle’r oedd yn ymgynghorydd ffotograffiaeth twll pin ar gyfer y ffilm Rachel Weisz – Mark Ruffalo ‘The Brothers Bloom’. Mae wedi ymddangos ar y teledu mewn rhaglenni fel The One show, Jonathan Ross Show, Blue Peter, Radio 4 ‘Today’,‘Absolute Genius with Dick and Dom’ a ‘George Clarkes Amazing Spaces’. Mae wedi cyhoeddi pedwar llyfr, ac yn fwyaf diweddar, y gwerslyfr ‘Discovering Light’.

Mae hefyd yn hyrwyddo ac yn helpu gyda ‘Diwrnod Twll Pin y Byd’ a’r Ŵyl Ffotograffiaeth Arbrofol sy’n digwydd bob blwyddyn yn Barcelona.