Sianel / 31 Maw 2023

March Newsletter

Mae arddangosfa Andy Barham a Dr Sara De Jong, We Are Here, Because You Were There wedi dod i ben yn swyddogol yma yn Ffotogallery, a hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ddaeth i ymweld. Cofiwch, gallwch weld yr arddangosfa ar-lein o hyd ar y daith rithwir hon.

Gallwch ddal i anfon adborth hefyd – os daethoch i ymweld â’r oriel i weld yr arddangosfa hon, llenwch yr arolwg ar-lein di-enw hwn i’n helpu i gasglu gwybodaeth a sylwadau pobl a fydd yn ein helpu wrth gynllunio ein digwyddiadau a’n harddangosfeydd yn y dyfodol.

Mae’r oriel wedi cau tra ar hyn o bryd am ein bod rhwng arddangosfeydd, ond cofiwch barhau i ddarllen er mwyn gweld beth sydd ar y gweill yn Ffotogallery:

CYFLE - INTERVENTIONS: GALLERY RESET

Mae Ymyriadau: Ailosod Orielau yn fenter newydd sy'n lansio yn 2023 ac mae’r fenter hon yn gofyn meddiannu cyfres o orielau dros y ddwy flynedd nesaf. Y grant Reimagine gan ArtFund sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl, a'r bwriad yw agor yr oriel i gael ei hail ddehongli gan yr artist ei hun a gan y gynulleidfa.

Ein gobaith ni yw y bydd yr ymyriadau a'r meddiannau hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i artistiaid sydd wedi eu seilio yng Nghymru sydd ag arferion sy'n herio ac yn aflonyddu ffyrdd traddodiadol o weithio, yn gofyn cwestiynau heriol a chythruddol, ac yn canolbwyntio ar themâu fel hunaniaeth, mudo, rhywedd, anghydraddoldeb cymdeithasol a'r amgylchedd.

Ar gyfer y meddiant cyntaf, mae'n bleser mawr gennym weithio mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru, y sefydliad arweiniol ar gyfer celfyddydau anabledd yng Nghymru. Trwy wneud galwad agored, bydd un artist sy'n gweithio mewn ffotograffiaeth neu gyfryngau'r lens ac sy'n eu hystyried eu hunain yn fyddar, anabl a/neu niwrowahanol yn cael eu dewis ar gyfer y prosiect.

Gwahoddir yr artist i ailddychmygu'r syniad o weithio yng nghyd-destun oriel gyfoes, drwy arbrofi â gosodweithiau, rhyngweithio a dehongli a herio dulliau traddodiadol.

Mwy o wybodaeth


FFAIR LLYFRAU FFOTOGRAFFAU

Ymunwch â ni Ddydd Sadwrn 22 Ebrill, 12-5pm ar gyfer ein Ffair Llyfrau Ffotograffau!

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gan Paul Cabuts, Alejandro Acīn, David Barnes & Sebastian Bruno, a gweithdy techneg rhwymo llyfrau gyda Bill Chambers ac amrywiaeth wych o stondinwyr, yn cynnwys Offline Journal, Al Naaem, Vaine, Spacecraft Magazine, Yellow Back Books, 2Tenbooks, a mwy.

Dim ond lle i nifer cyfyngedig o bobl sydd yn y gweithdy rhwymo llyfrau

Mwy o wybodaeth


FAADI / Y STAFELL FYW / THE LIVING ROOM

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi mai’r arddangosfa nesaf yn Ffotogallery yw Faadi / Y Stafell Fyw / The Living Room, sef prosiect ffotograffiaeth a ffasiwn ar draws y cenedlaethau sy’n rhannu sefyllfaoedd teuluol personol o fewn cartrefi Somali-Gymreig. Mae pwyslais y prosiect ar ddathlu ac mae’n cynnwys lluniau o fodelau lleol ifanc mewn gwisgoedd priodferch, aelodau o’r gymuned yn modelu dillad diwylliannol fel Hidyaah Dhaqan a Diraq, brawdoliaeth a gwrywdod meddal a’r ddawns draddodiadol Ciyaar Somali.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Asma Elmi, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Al Naeem, a Young Queens. Mae Al Naeem yn gylchgrawn sy’n canolbwyntio ar ffasiwn, ffotograffiaeth a chelf pobl Ddu a Mwslimaidd. Mae Young Queens yn grŵp celfyddydol i fenywod ifanc Somali-Gymreig o Gaerdydd, a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, gyda chefnogaeth ariannol y Loteri Treftadaeth.

Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o 28ain Ebrill hyd 11eg Mai, ac mae rhagor o fanylion am y digwyddiad i ddod.

Llun: Asma Elmi, Young Queens, Hayaat Women's Trust, Al Naeem Magazine, funded by Heritage Lottery Foundation.

Mwy o wybodaeth

BONANSA CELF MAWR QUEERDOS I DEULUOEDD ENFYS

Ar Ddydd Sadwrn 29 Ebrill bydd Queerdos yn dod i ymuno â ni ar gyfer y diwrnod hwyliog hwn o weithgareddau creadigol! Byddwn yn gwneud bathodynnau, yn cynnal gweithdai sînau, yn creu darn celf cydweithredol enfawr y gall pawb a phob un gyfrannu ato, a mwy! Rydym eisiau dod â rhieni LHDTC+ a’u plant ac ieuenctid cwiar at ei gilydd i gysylltu a chreu er mwyn dathlu ein cymuned enfys ardderchog o liwgar a bywiog. Bydd gwestai arbennig yma hefyd i gynnal amser stori gyda’r plant.

Beth mae’n olygu i fod yn deulu enfys? Hoffem archwilio hyn a rhoi lle i deuluoedd ac ieuenctid cwiar fynegi eu hunain ym mha ffordd bynnag y dewisant gyda phaent, glud, glitr a llond calon o gariad.

29 Ebrill / 12 – 4pm
Mynediad am ddim / Oedran yr Ifanc 0-16

Mwy o wybodaeth

DYDD MAWRTH TE A THEISEN

Byddwn ar gau am ychydig wythnosau felly bydd y Dydd Mawrth Te a Theisen nesaf ar 2 Mai 2023. Byddwn yn agored rhwng 11am a 1pm gyda staff wrth law i’ch cyfarch ac i ddweud rhagor wrthych am yr arddangosfeydd a’r digwyddiadau yn Ffotogallery. Byddwn wrth ein boddau’n eich gweld chi yno i sgwrsio dros goffi a chacen.

Mwy o wybodaeth


Efallai y byddech chi hefyd yn mwynhau:


© Mohamed Hassan

On Loss and Damage

Mae On Loss and Damage yn cymryd ei deitl o seminar sydd â’r enw hwn gan Julie’s Bicycle ac mae’n tynnu saith o artistiaid at ei gilydd, Mohamed Hassan, Rebecca Wyn Kelly, Alfred Sisley, Terry Setch, Durre Shahwar, Kandace Siobhan Walker a Mari Wirth. Mae gwaith yr artistiaid hyn yn rhoi cyfyngder yr argyfwng hinsawdd, y pethau y gellir eu hadfer a’r pethau y gallem eu colli yn eu cyd-destun drwy gyfrwng gosodweithiau, fideo, ffotograffiaeth a phaentiadau, dan ofalaeth Bob Gelsthorpe.

Mwy o wybodaeth

Photomonitor – galwad i leisio diddordeb

Mae golygyddion Photomonitor yn gwahodd pobl i fynegi diddordeb mewn gwneud gwaith ysgrifennu newydd am ffotograffiaeth. Maen nhw’n gofyn i bobl ebostio syniadau am ysgrifau nodwedd, yn cynnwys cyfweliadau, adolygiadau o lyfrau ac arddangosfeydd, traethodau a thestunau arbrofol am ffotograffiaeth, i’r grŵp golygyddol newydd.

Mwy o wybodaeth

Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru – rolau llawrydd yn yr amgueddfa!

Mae Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn cydweithio i ddatblygu gweithgareddau, digwyddiadau, prosiectau graddfa fawr dan arweiniad pobl ifanc a rhagor yn yr amgueddfa gan ehangu eu gwybodaeth am gelf, diwylliant a chreadigedd ar yr un pryd. Mae Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru’n cael cyfleoedd yn rheolaidd i wneud cais i weithio ar brosiectau am dâl gyda staff yr amgueddfa a rhwydweithiau ehangach. I ymuno, rhaid i chi fod o fewn yr ystod oedran 16 – 30 a naill ai fod o etifeddiaeth Gymreig neu fod yn byw yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth

© Mary McCartney

Sgyrsiau yn y Capel – Jackie Kay

Mae Jackie Kay yn awdur sy’n gweithio ar draws y genres i gyd. Mae ei nofel Trumpet yn rhyfeddol. Mae hi hefyd yn ysgrifennu straeon byrion gwych. Jackie yw cofiannydd Brenhines y Blues, Bessie Smith. Red Dust Road yw ei chwiliad hunangofiannol am ei rhieni biolegol. A Bantam yw’r diweddaraf o nifer o gasgliadau o gerddi. Gallwch ei chlywed yn siarad am hyn i gyd a mwy, yn Y Capel yn Y Fenni ar 19 Ebrill am 19.30pm.

Mwy o wybodaeth

Yr Hen Iaith – cyfres o bodlediadau

Lansiodd y gyfres am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2023 ar AM (mae AM yn wefan ac ap sy’n arddangos y celfyddydau yng Nghymru). Mae’r podlediad, sy’n cynnwys 9 pennod, yn ei ddisgrifio eu hun fel taith ddifyr drwy hanes llenyddiaeth Gymreig gyda Jerry Hunter, bachgen o Ganolbarth Gorllewin America, sy’n addysgu Richard Wyn Jones, bachgen o ganol Sir Fôn, am drysorau ei iaith ei hun. Cynhyrchir y gyfres gan Richard Martin.

Mwy o wybodaeth

Galwad Agored Pretence Magazine: ‘Cwicsotig’

Mae Pretence Magazine yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer yr adran galwad agored yn eu rhifyn Gwanwyn 23. Mae’r thema y tro hwn yn ymwneud â ‘cwicsotig’ - “Rhamantus, afradlon, llygadloyw, gweledigaethol, iwtopaidd, anymarferol, amhosibl? Beth mae Cwicsotig yn ei olygu i chi a sut allai eich gwaith chi ei gynrychioli? Gwyddom fod hyn yn her, dyna’r pwynt. Gwthiwch eich hun i gynhyrchu rhywbeth a fydd yn cyfareddu.” Cewch gyflwyno hyd at 3 llun yn rhad ac am ddim, a’r dyddiad cau yw 28 Ebrill.

Mwy o wybodaeth