Sianel
/ 8 Rhag 2020
Taith Rithwir – Nifer o Leisiau, Un Genedl 2
Er na allwn agor yr oriel yn gorfforol ar hyn o bryd, gallwch fwynhau arddangosfa ddiweddaraf Ffotogallery o gysur eich cartref eich hun erbyn hyn gyda’r daith rithwir ryngweithiol hon! Rydym yn bwriadu ail agor yn y flwyddyn newydd, yn amodol ar ganllawiau gan Lywodraeth Cymru, felly gobeithio y gallwch ddod i ymweld â’r arddangosfa bryd hynny.
Mae Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 yn cynnwys gwaith deuddeg o ffotograffwyr dawnus sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae’r arddangosfa’n cyfleu cyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd a newid mawr.
Hoffem ddiolch i’n ffrindiau yn 4Pi Productions / CultVR Lab am ei gwneud hi’n bosibl i ni ddod â’r arddangosfa hon i’ch cartrefi.