Nifer i Leisiau, Un Genedl 2
Abby Poulson, Antonia Osuji, Cynthia MaiWa Sitei, Ethan Beswick, Jack Osborne, Jo Haycock, John Manley, Kaz Alexander, Lucy Purrington, Matthew Eynon, Mohamed Hassan, Robert Law.
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd Ffotogallery yn ail agor ei ddrysau i’r cyhoedd ar Ddydd Mercher 19 Mai 2021 fel bod ymwelwyr yn gallu mwynhau Nifer o Leisiau, Un Genedl 2, sef arddangosfa sy’n cyflwyno golwg fwy optimistaidd ar ddyfodol Cymru. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith deuddeg o ffotograffwyr dawnus sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae’n dangos cyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd a newid mawr.
Yn ystod y Cyfnod Clo, gwahoddodd Ffotogallery ffotograffwyr proffesiynol ar hyd a lled Cymru i enwebu ffotograffwyr, myfyrwyr ac artistiaid y mae eu gwaith yn cynnig cipolwg ar fywyd cyfoes ac yn cynrychioli ehangder y ddawn sydd i’w chael yng Nghymru ac sy’n haeddu cael ei gweld yn ehangach. Dewiswyd deuddeg o artistiaid ledled Cymru, sy’n adlewyrchu amrywiaeth eang o bynciau a gwahanol agweddau ar ffotograffiaeth. Mae David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, yn esbonio:
“Trwy gyfrwng yr arddangosfa hon ac yn y gwaith sydd i ddod gan Ffotogallery, rydym eisiau sicrhau ein bod yn gwerthfawrogi’r rôl y mae pobl o bob rhan o’n cymdeithas yn ei chwarae i greu Cymru liwgar ac egnïol. Gwyddom y bydd y celfyddydau yng Nghymru’n gryfach, yn fwy cyffrous ac yn berthnasol i fwy o bobl os byddwn yn croesawu amrywiaeth. Rydym yn annog cyfranogaeth y cyhoedd ac ymgysylltiad â’r gynulleidfa yn frwd iawn gyda’r materion sy’n codi o’r arddangosfa”.
Mae’r arddangosfa wedi bod yn bosibl diolch i gymorth Cronfa Adferiad Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi galluogi i Ffotogallery hefyd wneud ei oriel yn ddiogel rhag Covid ac yn groesawgar i ymwelwyr.
Cychwynnodd y rhaglen Nifer o Leisiau, Un Genedl ei bywyd fel arddangosfa deithiol a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Ffotogallery a Senedd Cymru, i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoliad yng Nghymru.
Mae’r oriel yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion diogelu rhag COVID. Dylid gwisgo masgiau wyneb bob amser o fewn yr adeilad heblaw bod y gwisgwr wedi’i eithrio, ac mae hylif diheintio’r dwylo ar gael drwy’r adeilad cyfan. Rydym yn annog ymwelwyr i lawrlwytho Ap COVID-19 y GIG a sganio’r cod QR wrth fynd i mewn i’r oriel.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ymweld, yna mae croeso i chi gysylltu â ni ar info@ffotogallery.org neu 029 2034 1667.