Arddangosfa / 13 Ion – 31 Ion 2018

Ffotogallery Presents...

Ffotogallery Presents...
© Duarte Pereira

Dathliad o ffotograffiaeth a gynhyrchwyd gan ein myfyrwyr talentog yn 2016 – 2017

Bu Ffotogallery yn dathlu grym ffotograffiaeth ers 40 mlynedd. Trwy gydol 2018 rydym yn dathlu ein pen-blwydd yn 40 oed â chyfres o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau arbennig. Bydd rhai o’r rheiny’n edrych yn ôl ar 1978 ac ar ddatblygiad y sîn ffotograffig yng Nghymru ers hynny. Bydd eraill yn edrych ymlaen, at y ffyrdd y mae’r broses o greu a rhannu delweddau yn debygol o esblygu yn ystod y pedwar degawd nesaf. Byddwn hefyd yn arddangos gwaith y ffotograffwyr a’r artistiaid gorau, o Gymru ac o bedwar ban byd.  

Mae ein rhaglen o gyrsiau ffotograffiaeth a chyfryngau digidol, a gynigir ar y cyd ag Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yn cael eu harwain gan artistiaid ac yn cael eu cynnal mewn grwpiau bach ag iddynt awyrgylch anffurfiol. Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu syniadau trwy gyfrwng cyfres o brosiectau ymarferol a sgyrsiau darluniadol sy’n archwilio effaith ffotograffiaeth a’r cyfryngau digidol mewn cyd-destun diwylliannol a hanesyddol arbennig. Rydym yn darparu amrywiaeth o fodiwlau, o Gyflwyniad i Ffotograffiaeth: Dechreuwyr a Myfyrwyr Canolradd, i Ffotograffio Pobl, Iaith Ffotograffiaeth, Dylunio Gwe Creadigol a Fideo Digidol.

Mae Ffotogallery hefyd yn gweithio’n rheolaidd gyda phartneriaid celfyddydol ac addysgol yng Nghymru ac yn rhyngwladol er mwyn sicrhau bod artistiaid, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr yn gallu mwynhau ymwneud dwfn ac eang â ffotograffiaeth gyfoes, y ddelwedd symudol ac arferion gwaith y cyfryngau digidol.

Nod Ffotogallery yn 2018 yw creu canolfan o’r radd flaenaf ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau digidol yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru; canolfan wirioneddol gyfoes wedi’i gwreiddio yn y cyd-destun lleol, a fydd yn cynnig cyfleodd creadigol i bobl o bob math ac yn canolbwyntio hefyd ar estyn allan, tua’r cyd-destun byd-eang.