Sianel / 7 Medi 2021

Newyddlen Mis Awst

Diffusion 21

Diffusion 2021 – Cadwch y dyddiad yn rhydd!

Mewn post blog diweddar, cyhoeddodd David Drake y cyfarwyddwr y byddai’r bumed ŵyl Diffusion: Gŵyl Ryngwladol Ffotograffiaeth Caerdydd yn digwydd yr hydref hwn! Mae’n bleser mawr gennym allu cynnal amrywiaeth o arddangosfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a De Cymru rhwng 1 a 31 Hydref.

Mae Trobwynt: Diffusion 2021 yn edrych tuag at ddyfodol ar ôl y pandemig drwy ddarparu platfform i leisiau artistig newydd a phrofiadau diwylliannol amrywiol, a model newydd o gydweithio sy’n darparu mis o ddigwyddiadau ffotograffiaeth yng Nghymru a chanddynt ymestyniad ac effaith rhyngwladol. Gan gyfuno gwaith wedi ei gyd-greu a’i gyflwyno ar-lein ac yn ffisegol, mae Turning Point: Diffusion 2021 yn dathlu ac yn rhoi lle blaenllaw i gyfoeth ac amrywiaeth daearyddol, diwylliannol a chymdeithasol y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd mawr a chyfle newydd.

Mwy o wybodaeth

© Maryam Wahid

Maryam Wahid - Motherland

Mae ein harddangosfa ddiweddaraf yn Ffotogallery wedi agor!

Mae Motherland yn dathlu ac yn archwilio’r syniad o hunaniaeth, ac mae’n cylchdroi o amgylch ffotograffau teulu Maryam Wahid ei hun. Ei nod yw cydnabod bodolaeth a chyflawniadau menywod gweithgar y gymdeithas wasgaredig o Bacistan a symudodd i’r DU, a hynny drwy hunanbortreadau, ac albwm personol ei theulu. Mae’r amgueddfa’n agored yn Ffotogallery tan Ddydd Sadwrn 11 Medi. Dyddiau agor yr oriel yw Dydd Mercher i Ddydd Sadwrn, 12-5pm.

Gofynnwn i chi wisgo masg drwy gydol eich ymweliad os gwelwch yn dda.

Mwy o wybodaeth

© Marc Arkless

David Drake yn Gadael ei Swydd

Ar ôl 13 mlynedd wrth y llyw, bydd David Drake y cyfarwyddwr yn ymddiswyddo o’i rôl yn Ffotogallery ddiwedd mis Tachwedd.

Meddai David ‘Mae wedi bod yn anrhydedd o’r mwyaf i mi arwain y sefydliad dros y cyfnod hwnnw a gweithio gyda chynifer o artistiaid, cynhyrchwyr creadigol a sefydliadau partner gwych yng Nghymru, Ewrop ac o amgylch y byd. Byddaf yn edrych yn ôl gyda balchder enfawr ar yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni, ac edrychaf ymlaen at yr arweiniad newydd, y syniadau ffres a’r safbwynt gwahanol ar ffotograffiaeth a ddaw gyda fy olynydd.’

Yn y cyfamser, bydd yn cynhyrchu postiadau blog bob mis i ddathlu ac adlewyrchu’r rôl hanfodol y mae ffotograffiaeth gyfoes yn ei chwarae mewn cymdeithas yng Nghymru ac yn rhyngwladol.


Taith Rithiol – Unseen

Os nad oeddech chi wedi gallu ymweld â’r oriel yn bersonol i weld arddangosfa Suzie Larke Unseen, neu os ydych yn syml iawn eisiau gweld y gwaith eto, mae’n bleser mawr gennym allu cynnig taith rithiol newydd o’r sioe sy’n cael ei chyflwyno yn ein horiel yn Fanny Street.

Amcan Unseenyw helpu pobl i fynegi eu profiadau drwy gyfrwng ffotograffiaeth gysyniadol. Y nod yw cynyddu ymwybyddiaeth a thrafodaeth am les meddyliol a’n huno ni yn y sylweddoliad bod pawb yn mynd drwy gyfnodau anodd – ac yn gallu eu goresgyn.

Mwy o wybodaeth

Llyfr y Mis

Yn dilyn ei sioe lwyddiannus yn Ffotogallery yn ôl ym mis Mai, ac i gefnogi’r daith rithiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ein Llyfr y Mis yw Unseen gan Suzie Larke! Mae ei llyfr lluniau’n cynnwys portreadau o’i phrosiect cyntaf In the Mind’s Eye, yn ogystal â’r lluniau o Unseen a chyfrifon personol gan rai cyfranwyr.

Mwy o wybodaeth

Efallai bod gennych ddiddordeb hefyd yn y rhain:

Dydd Mawrth Te a Theisen

Bydd Ffotogallery yn Fanny Street yn cynnal Dydd Mawrth Te a Theisen yn yr oriel. Mae croeso i bawb - gobeithiwn eich gweld chi yno! 7 Medi, 11am – 1pm

David Hurn – Sgyrsiau yn y Capel

Ymunwch â David Hurn i drafod ei waith a’i daith ffotograffiaeth yn y Siop Gelf a’r Capel yn Y Fenni. 8 Medi, 7pm

Mwy o wybodaeth


Survey II

Dim ond 2 wythnos sydd ar ôl o arddangosfa Jerwood Arts sy’n cael ei chynnal yn G39.
Mae’r arddangosfa ddynamig hon yn cynnwys artistiaid sydd nemor cychwyn yn eu gyrfaoedd mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau celf weledol.

Mwy o wybodaeth