Digwyddiad / 14 Gorff – 15 Gorff 2021

More Than A Number: Symposium 1

Rydym yn fwy na thywod ac yn fwy na’r traeth, rydym yn fwy na rhifau.”

- Bob Marley, Wake Up and Live, 1979

Mae More Than a Number yn rhan o’r gyfres Ffotograffiaeth ac Affrica gan Ffotogallery, sy’n mynd ati i archwilio’r ffordd rydyn ni’n meddwl am Affrica fel gwlad wedi’i dal rhwng moderniaeth a thraddodiad, a sut y gall gwahanol ddiwylliannau gynhyrchu ystyr drwy ddelweddau. Trwy gyfrwng cyfres o weithdai gan artistiaid, symposia a chynnwys ar-lein, mae More Than a Number yn gwahodd y gynulleidfa i ymddiddori yn y gwaith eithriadol hwn sy’n procio’r meddwl gan 11 o ffotograffwyr o Affrica. Mae’n ein hannog i edrych yn fanwl ac yn glir i wyneb yr unigolyn o’n blaenau a dechrau sgwrsio. Yng ngeiriau Elbert Hubbard, “Pe bai dynion yn gallu dod i adnabod ei gilydd, ni fyddent yn gwirioni nac yn casáu”.

I lawer o bobl sydd wedi cael eu rheoli hyd eu heithrio i ymylon cymdeithas, mae gwahaniaethau diwylliannol a chwestiynau am hunaniaeth mewn perthynas â ‘hawliau pobl i dderbyn cydnabyddiaeth’ wedi bod yn frwydrau ffyrnig i geisio sefydlu eu hunaniaeth a’u gwerth fel pobl (Hall, 1992). Beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n esgeuluso diwylliant materol pobl a ddim yn ei wir werthfawrogi na’i gynrychioli ymhob man i bawb ymgysylltu ag o? A sut allwn ninnau fel cynulleidfa, p’un a ydym yn unigolion neu’n sefydliadau diwylliannol, dynnu casgliadau o’r hyn a wyddom ac a ddeallwn yn barod am Affrica a phobl Affricanaidd drwy gyfrwng gweledol? Ac yn olaf, sut allwn ni fel sefydliadau diwylliannol yn y Gorllewin fod yn fwy cyfrifol yn y ffordd yr ydym yn cynrychioli ffotograffiaeth o Affrica?

Mae More Than a Number wedi ei seilio ar dair thema: Cynrychioli Ehofndra, Parthau Cysylltu a Chymdeithasoldeb Radicalaidd. Mae’r prosiectau gan Amina Kadous, Brian Otieno, Sarah Waiswa a Wafaa Samir yn cynnig gweledigaethau hynod o oddrychol o hunaniaeth Affricanaidd gan hefyd archwilio beth yw gwir ryddid ac ehofndra mewn celf. Mae Nana Kofi Acquah, Salih Basheer, Tom Saater ac Yoriyas Yassine Alaoui yn telegludo’r gynulleidfa i’w parthau cysylltu, ac yn archwilio’r syniad o ail-greu ac ailddychmygu ein hunaniaethau. Mae’r prosiectau gan Maheder Haileselassie Tadese, Steven Chikosi a Jacques Nkinzingabo yn ein hatgoffa am bwysigrwydd cadw a gofalu am ein diwylliant materol, ein treftadaeth ddiwylliannol a’i heffaith, yn enwedig mewn perthynas â chwestiynau am fudo, dad-drefedigaethu, perthyn a phrofiad.

Mae angen i hawliau cynrychiolaeth ddigwydd a pharhau i ddigwydd drwy gyfrwng gweledol fel ffotograffiaeth. Yn hanesyddol, mae cael eich gweld a chael pobl i edrych arnoch – ar draws y gwahanol hiliau, rhywiau a dosbarthiadau cymdeithasol – yn hawl dynol. Bydd yr arddangosfa ar-lein More Than a Number yn lansio ar 14 Gorffennaf 2021 ochr yn ochr â’i symposiwm cyntaf.

MORE THAN A NUMBER: SYMPOSIWM #1 – 14 Gorffennaf 2021

Bydd curaduron o bob rhan o Affrica yn siaradwyr gwadd yn symposiwm cyntaf More Than a Number a byddent yn trafod materion yn ymwneud â chynrychioli a dangos gwaith ffotograffwyr ac artistiaid gweledol lleol yn Affrica. Dyma fydd rhai o’r cwestiynau dan sylw:

  • A oes digon o drafod beirniadol i leoli a gwerthuso’r gwaith sy’n cael ei gynhyrchu gan ffotograffwyr o Affrica?
  • A oes y fath beth ag estheteg weledol Affricanaidd?
  • Beth yw rhai o’r profiadau a’r heriau a wynebwyd wrth guradu arddangosfa/gŵyl yn Affrica - (gwahoddaf chi i edrych yn feirniadol a myfyrio ar eich taith pan oeddech chi’n cychwyn).
  • Sut allwn ni sicrhau bod ffotograffwyr yn Affrica yn cael yr un cyfleoedd â’r ymarferwyr eraill, ac yn cael eu trin yn deg a gyda pharch fel ffotograffwyr rhyngwladol?
  • Beth yw rhai o’r polisïau a roddwyd ar waith i amddiffyn a gofalu am artistiaid gweledol sy’n gweithio yn Affrica?
  • Sut ydych chi’n meddwl y gellir sicrhau eglurder agored ymysg artistiaid a sefydliadau/mudiadau?
  • (Mae’r cwestiwn hwn i’r artistiaid sy’n arddangos:) Pa gamau, dulliau neu fesurau ydych chi’n eu cymryd (os ydych yn cymryd rhai o gwbl) yn eich gwaith i sicrhau bod eich gwaith yn cynrychioli delwedd “realistig” neu “gywir” neu “gonest” o Affrica?
  • Sut allwn ni sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael cipolwg, dealltwriaeth ac ystyr go iawn o weld ffotograffau, yn enwedig y rhai sy’n dod o Affrica?

Yn hwyrach yn haf 2021, byddwn yn cynnal tri gweithdy ar-lein gydag artistiaid: wedi eu seilio ar y tair thema a archwiliwyd yn gynharach – Cynrychioli Ehofndra, Parthau Cysylltu a Chymdeithasoldeb Radicalaidd – bydd pob artist yn sgwrsio â’r gynulleidfa am eu gwaith. Ac yn olaf, i gyd-fynd a Gŵyl Diffusion 2021 yng Nghaerdydd (mis Hydref 2021), bydd arddangosfa ffisegol ac ail symposiwm yn cael eu cyflwyno i archwilio nifer o’r sgyrsiau am More Than a Number a Ffotograffiaeth ac Affrica ymhellach.

More Than a Number Online Exhibition https://ffotoview.org/