Digwyddiad / 18 Maw 2021

Ffotograffiaeth ac A Woman’s Work

Yn dilyn llwyddiant ein cynnig Ffotograffiaeth ac Iaith ar y we yr Hydref diwethaf rydym yn trefnu cyfres newydd o ddigwyddiadau ar-lein ar ddull ‘Ffotograffiaeth a….’ ac yn gwahodd artistiaid a phobl broffesiynol o amgylch y byd i gyd i ymuno â thrafodaethau am rôl ffotograffiaeth yn y byd heddiw.

Rydyn ni’n cychwyn y gyfres gyda Ffotograffiaeth ac A Woman’s Work, sy’n digwydd ar Ddydd Iau 18 Mawrth am 2pm. Yn ymuno â ni fydd artistiaid, curaduron a phartneriaid a gymerodd ran yn y prosiect dwy flynedd gan Creative Europe a aeth ati i ddatblygu dealltwriaeth newydd drwy ffotograffiaeth o dirlun newidiol y rhywiau a swyddi, gan ysgogi dadl am y materion cyfoes sy’n wynebu Ewrop.

Bydd cyflwyniadau gan gydweithfa artistiaid Maternal Fantasies (Yr Almaen), Miriam O'Connor (Iwerddon) ar fenywod mewn ffermio, Tonje Bøe Birkeland (Norwy) am ei phrosiect The Characters, Kaunas Photo Gallery (Lithwania) ar ffotograffiaeth a gwaith menywod yn y cyfnod ôl-Sofietaidd, Gallery of Photography (Iwerddon) a Ffotogallery (Cymru) ar dirlun newidiol gwaith merched yn Ewrop, a’r deuawd artist/curadur Whack 'n' Bite (Ffindir). Hefyd, bydd lansiad y cyhoeddiad etifeddol A Woman's Work a chyfle i drafod y materion sy’n codi o’r prosiect 2018-21 hwn gan Ewrop Greadigol.

Yn boeth o’r wasg, mae’r cyhoeddiad etifeddol A Woman’s Work ar gael i’w brynu yma.

Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y digwyddiad hwn yn digwydd drwy Zoom. Os oes gennych unrhyw ofynion mewn perthynas â mynychu’r digwyddiad, anfonwch e-bost ataf cyn y digwyddiad os gwelwch yn dda ar [email protected], ac fe wnawn ein gorau i ddarparu cymorth.