Digwyddiad / 2 Awst 2022

Dydd Mawrth Te a Theisen - Sesiwn i Ddathlu Pride

Ymunwch â ni i fwynhau sesiwn arbennig ac ychydig yn wahanol o’n bore Te a Theisen lle byddwn yn dathlu popeth Pride ar Ddydd Mawrth 2il Awst. Yn gefndir i’n sesiwn bydd ein harddangosfa gyfredol gan John Paul Evans sy’n cyfeirio at ei berthynas gyda’i ŵr, ac edrychwn ymlaen at sgyrsiau a rhannu profiadau ar themâu LHDTQ+ mewn amgylchedd agored, diogel a hamddenol.

Byddwn wrth ein boddau’n eich gweld chi yno i sgwrsio dros goffi a chacen.

Croeso i bawb.

Am ddim i bawb.