Artist

Mohamed Hassan

Portrait of Mohamed Hassan

Daw Mohamed Hassan yn wreiddiol o Alexandria yn yr Aifft ac mae wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, yng ngorllewin Cymru ers 2007. Graddiodd gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ffotograffeg o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2016.

Mae byw ac astudio yng Nghymru wedi bod yn ganolog i’w daith fel artist. Wrth iddo archwilio mwy o Gymru, canfu Mohamed ysbrydoliaeth yn y tirweddau gwyllt o’i amgylch. Fel newydd-ddyfodiad mae wedi ei gyfareddu gan iaith a diwylliant cyfoethog ac artistig y wlad, sydd wedi ei drochi mewn cân a chwedloniaeth hynafol - ac mae wrth ei fodd bob amser yn tynnu lluniau o bobl yn byw ac yn gweithio yng ngorllewin Cymru, yn yr awyr agored yn amgylchedd naturiol yr ardal ac hefyd yn y stiwdio.

Mae Mohammed yn gweithio mewn du a gwyn ac hefyd mewn lliw, gan ganolbwyntio ar naws a golau’r olygfa. Mae gan ei waith nodweddion tawel a chynnil a’i nod yw eich tynnu i mewn i’r ddelwedd y mae’n ei chreu, gan ysgogi ymateb emosiynol.

Mae Mohamed wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrwyon a chystadlaethau ac mae ei waith wedi ymddangos yn arddangosfa Portreadau Ffotograffig Taylor Wessing yn 2018 yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain, Elysium Abertawe, Nova Cymru 2018, y glodfawr Oriel Mission, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yng Nghymru ac Arddangosfa Cystadleuaeth y Trajectory Showcase yn Shoreditch, Llundain.

Gwefan | Instagram

Gallery

Witnessing Wales

I Nifer o Leisiau, Un Genedl 2, mae Mohamed wedi cynhyrchu cyfres o bortreadau diweddar o bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yng ngorllewin Cymru.

Mae’r pandemig Covid 19 wedi cael effaith ddifrifol ar gymdeithas a chymunedau. Yng ngorllewin Cymru, mae’r economi, sy’n ddibynnol iawn ar dwristiaeth a lletygarwch, wedi gweld nifer o bobl yn colli swyddi neu’n cael eu rhoi ar y cynllun ffyrlo, ac mae rhai cymunedau wedi dod ynghyd i’w cefnogi ei gilydd, tra bo eraill wedi ymrannu fwy nag oeddent o’r blaen.

Yn Sir Benfro cafwyd llawer o densiynau’n codi o amgylch ailgartrefu pobl ddigartref a chynlluniau’r Weinyddiaeth Amddiffyn i roi cartref i fwy na 200 o geiswyr lloches ym Mhenally, ger Dinbych y Pysgod, gyda phrotestwyr adain dde eithafol yn targedu’r gwersyll gan achosi gwrthdrawiadau blin â’r Heddlu; i wrthwynebu hynny, mae grwpiau lleol wedi dod ynghyd i gefnogi’r ffoaduriaid. Mae digwyddiadau cyn Covid, fel Brexit, yn parhau i ychwanegu at y darlun o ansicrwydd ac mae’r dyfodol yn cyflwyno heriau i ddiogelwch economaidd, ein rhyngweithio cymdeithasol a’n hunigrwydd, a chydsafiad cymunedol.

Mae’r cyfnod hwn yn un o’r adegau mwyaf ansefydlog yn ein hanes diweddar, ac mae’r portreadau hyn yn rhoi ciplun mewn amser i ni o bobl yn byw ac yn gweithio yng ngorllewin Cymru fodern ac yn archwilio’r syniad o hunaniaeth genedlaethol Cymru lle mae pobl yn rhannu dyhead am genedl lle mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad yn bethau arferol a phob dydd.

Yn y gyfres hon o ffotograffau rwyf wedi portreadau pobl o wahanol gefndiroedd sydd wedi cael eu denu i orllewin Cymru – i fyw, i weithio neu i astudio ac sydd â synnwyr, neu sydd wedi datblygu synnwyr, o ddinasyddiaeth Gymreig. Mae Tom, ffisiotherapydd sy’n siarad Cymraeg ac sy’n gweithio yn yr ysbyty lleol; Andy, rheolwr siop o Loegr sydd yn awr yn ystyried Cymru’n gartref ysbrydol iddo; Seren a Bethan, myfyrwyr ifanc o Gymru – mae’r cennin pedr sydd ganddynt yn awgrymu sut maen nhw wedi eu clymu i’w hunaniaeth Gymreig; a David, cerflunydd a gwneuthurwr printiau sy’n byw yng Nghymru ers diwedd yr 80au, sy’n dysgu Cymraeg ac y mae ei gelf wedi’i ysbrydoli gan y dirwedd leol y mae’n byw ynddi.

Mae Andy’n deall: “Dywedodd fy narlithydd prifysgol wrthyf i un tro ei fod wedi ei eni yn Lloegr ond, fel person, roedd yn dod o Gymru. Symudais innau yma saith mlynedd yn ôl ac, yn yr amser hwnnw, rydw i wedi dod o hyd i fi fy hun, fy angerdd a fy nghartref. Rydw i’n dod o Gymru.”

Mae’r portreadau’n gofyn cwestiynau am y berthynas rhwng hunaniaeth a chenedligrwydd, beth sy’n ein gwahanu ni a beth sy’n ein clymu ni ynghyd, beth yw Cymreictod heddiw ac, yn y cyfnod hwn sy’n newid mor gyflym, mae’n gofyn cwestiwn pellach ynglŷn â beth fydd hyn yn y dyfodol.