Artist

Ethan Beswick

Portrait of Ethan Beswick

Mae cysylltiad cynhenid rhwng y dirwedd a’i defnyddwyr. Mae ein hamgylchiadau, yr adeiledig a’r naturiol yn gweithredu fel fframwaith yr ydym yn adeiladu ein hunaniaeth gymdeithasol ohono. Y berthynas hon rhwng yr amgylchedd a’r bobl o’i fewn yw prif ffocws fy ngwaith. Cyn astudio Ffotonewyddiaduraeth yng Ngholeg Celf Abertawe, hyfforddais fel syrfëwr meintiau, sydd wedi rhoi mewnwelediad unigryw i mi i’r amgylchedd adeiledig, i bensaernïaeth ac i effaith defnyddiau a phrosesau a ddefnyddir i gerflunio’r byd yr ydym yn byw ynddo. Mae’r rhyfeddu hwn yn fy ngwthio i ymchwilio ymhellach i ganlyniadau seicolegol trefoli a globaleiddio.

Gwefan | Instagram

Gallery

The Fruit Bar Line

Am y pum mlynedd diwethaf, mae Ethan Beswick wedi bod yn tynnu lluniau drwy Ogledd Cymru gyfan, yn creu ymateb melysber, ond amwys, i’r Dirwedd Gymreig. Mae Beswick yn cyflwyno tawelwch heddychlon ac anghyseinedd gwybyddol i awgrymu teimlad o gariad a ffieidd-dod ar yr un pryd tuag at y lle.

Yn y pen draw, mae The Fruit Bar Line yn fyfyrdod am Gymru, am y bobl sy’n byw ar ei thir, ac am fecanwaith perthyn, annigonolrwydd a dymuniad.